Amdanom Ni

Responsibilities 

Mae Cyngor Cymuned Llanfaelog yn cael ei wasanaethu gan 12 o Gynghorwyr Cymuned sy’n cynrychioli trigolion Llanfaelog, Rhosneigr,Ty Croes, Bryn Du a Pencarnisiog.

Rydym yn cael ei’n hethol gan breswylwyr lleol a bydd yr apwyntiad yn parhau am gyfnod o bedair blynedd. Cynhelir yr Etholiadau hyn ym mis Mai ar yr un pryd ag etholiadau lleol /cyffredinol eraill. Bydd unrhyw swydd wag sy'n codi rhwng etholiadau ( er enghraifft, drwy ymddiswyddiad cynghorydd ) yn cael ei hysbysebu a'i llenwi un ai drwy etholiad neu gyfethol

Mae Cynghorau Cymuned yn darparu’r haen statudol o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl . Rydym yn gweithredu er budd y gymuned gyfan drwy wneud penderfyniadau ac argymhellion i wella ansawdd bywyd a'r amgylchedd. Mae ymgynghori a gwrando ar y trigolion i ddeall eu hanghenion , eu dymuniadau a'u pryderon yn agwedd hanfodol o’n gwaith.

Mae'r Cyngor hefyd yn cyflogi Clerc, hi yw Swyddog Priodol a Swyddog Arinnol Cyfrifol y Cyngor a bydd hi’n gweithredu ar ran y Cyngor Cymuned.

Gwasanaethau a ddarperir gennym:

  • Rydym yn cynrychioli trigolion Cyngor Cymuned Llanfaelog, rydym yn cyfleu eu pryderon i'r Cyngor Sir a Llywodraeth Cynulliad Cymru;
  • Rydym yn adrodd yn ôl i'r preswylwyr ar faterion sy'n effeithio ar y gymuned
  • Rydym yn trafod, a dylanwadu ar gyrff sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar y gymuned
  • Ymgynghorir â ni ac rydym yn rhoi ein barn ar geisiadau cynllunio;
  • Ymgynghorir â ni ac rydym yn rhoi barn ar faterion cynnal a chadw priffyrdd, materion arafu traffig, problemau parcio, enwi strydoedd ac ati
  • Ymgynghorir â ni ar faterion sydd yn ymwneud â’r traethau a’r llithrfeydd.
  • Rydym yn delio â materion Hawliau Tramwy - cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau
  • Rydym yn torri glaswellt mewn rhai llecynau
  • Ni yw perchennog Neuadd Bentref Llanfaelog
  • Rydym yn gyfrifol am Fynwent Newydd Llanfaelog
  • Rydym yn gyfrifol am Gloc Coffa Rhosneigr
  • Rydym yn cynnal cae chwarae yn Bryn Du, Llanfaelog a Rhosneigr
  • Rydym yn cynnal y llochesi fws
  • Rydym yn cynnal toiledau cyhoeddus Rhosneigr
  • Rydym yn cynnal meinciau a byrddau picnic
  • Rydym yn gwasanaethu ar bwyllgorau a mudiadau eraill ar ran y gymuned
  • Rydym yn mynychu cyfarfodydd Track Môn
  • Gallwn wario swm cyfyngedig o arian ar unrhyw beth sydd o fudd i'r gymuned
  • Rydym yn rhoi rhoddion i elusennau lleol.

 

Council News

Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Mae Rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol erbyn 30 Medi 2021, i Gyngor Cymuned Llanfaelog gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a gyhoeddwyd , a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyhoeddwyd y datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben. Oherwydd effaith COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.

Anglesey CC Development control Policy
The Council’s Freedom of Information Act
Map of the wards: Llanfaelog | Llifon